Croeso i Gronfeydd Dŵr Lliw

Set in the stunning mountain scenery thYng nghefndir mynyddig trawiadol Mawr i’r gogledd i Abertawe, mae Cronfeydd Dŵr Lliw Uchaf ac Isaf yn agored i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.

Gyda llwybrau cerdded, pysgota, chwaraeon dŵr, caffi a llwybr cerfluniau, mae yna ddigonedd i ymwelwyr ei fwynhau.

Mae llwybrau cerdded ar gael i bawb; o dro byr o amgylch y gronfa i lwybr dros ddeg milltir o hyd trwy’r gweundir. Mae yna lwybr pedwar milltir o hyd sy’n addas i gadeiriau olwyn a phramiau hefyd.

Mae cronfeydd dŵr Lliw Isaf ac Uchaf wedi eu hamgylchynu gan fosaig o gynefinoedd, gan gynnwys rhedyn, tir prysg, coetiroedd llydanddail, a glaswelltir asidaidd tir isel.

Mae’r ddau safle’n cynnal amrywiaeth eang o fflora a ffawna, a llawer ohonynt yn rhywogaethau prin. Mae’r adar ar y safle’n cynnwys yr hebog tramor, y cudyll coch, y gigfran, y gynffonwen, corhedydd y waun, yr ehedydd, crec yr eithin, y barcud coch a’r gylfinir.

Mynd am Dro

Picture of booted walkers feet

Dilynwch Lwybr y Ddwy Gronfa i ddarganfod llonyddwch Cronfa Ddŵr Lliw Uchaf ac ymuno â Llwybr Gŵyr. Mae’r llwybr, sydd ag wyneb gwastad sy’n goleddfu’n raddol yn addas i gadeiriau olwyn, pramiau a beics. Cymrwch bwyll ar y ffordd fynediad i gronfa Lliw Uchaf am fod cerbydau trigolion, gwasanaeth a chynnal a chadw’n defnyddio’r ffordd yn rheolaidd. Cadwch lygad ar blant bob amser.

Dilynwch Lwybr Lliw Isaf a chwiliwch am y cerfluniau bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Codwch daflenni gweithgaredd am ddim o Gaffi Lliw Isaf cyn cychwyn!

LAWRLWYTHO’R MAP

Llwybr Bywyd Gwyllt

Picture of woodcarving of otter

Ewch am dro ar hyd Lwybr Lliw Isaf a darganfyddwch y cerfluniau o fywyd gwyllt brodorol wedi eu cerfio o goed derw Cymreig gan y cerflunydd o Abertawe, Ami Marsden.

Mae’r cerfluniau pren prydferth yn cynnwys cwningen, crëyr glas, brithyll, draenog, dwrgi, tylluan, barcud coch ac ystlumod lleiaf.

Crëwyd yr holl gerfluniau gan ddefnyddio amryw o dechnegau, gan gynnwys cerfio â llaw, cerfio â llif gadwyn, sandio, llosgi ac iro, a dewiswyd lleoliad pob darn yn ofalus fel bod cerflun pob anifail yn agos at ei gynefin naturiol.

Pysgota

Picture of a fish and angling equipment

Bydd arnoch angen hawlen bysgota gan Gymdeithas Pysgota De Cymru. Ni ellir prynu hawlenni ar lannau’r gronfa.

Yn ogystal â’ch hawlen, bydd angen i chi brynu Trwydded Bysgota â Gwialen gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n ofyniad cyfreithiol er mwyn pysgota mewn dŵr croyw.

Ni chaniateir pysgota o’r argae na’r gorlifan.

Chwaraeon Dŵr

Picture of couple kayaking on lake

Mae ein pontŵn yn cynnig mynediad rhwydd i’r gronfa i badlwyr o bob gallu.

Swansea Adventures yw’r gweithredwyr chwaraeon dŵr trwyddedig. Mae’n cynnig gwasanaeth llogi caiacs a rhwyf-fyrddau, a gwersi grŵp a phreifat gyda hyfforddwyr. Mae’r hyfforddwyr yn gymwys ac yn brofiadol dros ben er mwyn sicrhau y cewch fanteisio i’r eithaf ar eich sesiwn.

Hunan-lansio ar gael cyn hir!

Ni chaniateir i neb fynd i’r dŵr heb awdurdod.

Hwyl Dysgu

Mae taflenni gweithgaredd Cymraeg neu Saesneg ar gael o’r caffi i gyd-fynd â’r cerfluniau bywyd gwyllt, ynghyd â ffeil ffeithiau, taflen waith a thasgau hwyliog eraill.

Dewch draw i Orsaf Gweithgareddau newydd Cronfeydd Dŵr Lliw i gael ysbrydoliaeth i gymryd rhan mewn celf naturiol neu greu ffon natur i’w chadw trwy gasglu pethau fel dail, brigau a phlu.

Y Maes Chwarae

Mae chwarae yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol yn fuddiol i bob rhan o ddatblygiad plant, ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.

Mae’r maes chwarae wedi cael ei adfer yn ddiweddar i greu ardal chwarae ysbrydoledig o bren naturiol lle gall plant fwynhau, dysgu a chysylltu â’r amgylchedd naturiol. Yn addas i blant 3 i 12 oed.

Caffi Lliw Isaf

Mae Caffi Lliw yn gwerthu bwyd ffres lleol sy’n cael ei baratoi ar archeb. Porwch trwy’r siop gyfagos am grefftau lleol.

Mawrth – Hydref | 9:00am – 4:00pm

Tachwedd – Chwefror | 9:00am – 4:00pm | Ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Ble ydyn ni

Picture of winding road

O gyffordd 46 ar yr M4 ewch i’r gogledd tua Felindre a dilynwch yr arwyddion i’r gronfa.

Nid oes mynediad i gerbydau ymwelwyr o’r Gronfa Isaf i’r Gronfa Uchaf. Mae traffig yn gyfyngedig i staff Dŵr Cymru, trigolion Lliw a cherbydau cludo nwyddau.

Y Maes Parcio

Picture of view through car windscreen

Ar Agor Bob Dydd | 8am – 6pm/nosi | £2.50 y diwrnod

Mae Dŵr Cymru Welsh Water am ddarparu amgylchedd glân sy’n cael ei gynnal yn dda i ymwelwyr ei fwynhau yng Nghronfeydd Dŵr Lliw. Caiff yr holl arian a godir trwy’r taliadau parcio ei ail-fuddsoddi yn y safle.

Sicrhewch eich bod chi’n symud eich cerbyd o’r maes parcio erbyn yr amserau a nodir am fod y gât yn cael ei chloi dros nos.

Mae trwyddedau parcio blynyddol ar gael i’r gymuned leol – holwch yn y caffi.

Cŵn

Picture of a dog

R’yn ni’n dwlu ân gŵn yma, ond cofiwch eu cadw ar dennyn er mwyn helpu i amddiffyn anifeiliaid y ffermydd cyfagos a’r adar sy’n nythu ar y ddaear.

Sori, ni chaniateir cŵn yn y Caffi, ond croeso i chi archebu bwyd a diod i fynd allan.

Cofiwch godi baw eich cŵn am ei fod yn cynnwys afiechydon sy’n gallu gwneud anifeiliaid a phobl yn sâl a llygru’r cyflenwad dŵr.

Anturiaethau eraill Dŵr Cymru

Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
Felindre
Abertawe
SA5 7NP

Polisi Preifatrwydd | Polisi Cwcis

© 2021 Dŵr Cymru Cyf | Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru. Rhif. 2366777.
Swyddfa gofrestredig: Pentwyn Road, Nelson, Treharris, Canol Morgannwg CF46 6LY.